P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Morgan, ar ôl casglu cyfanswm o 1,157 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar hyn o bryd, mae myfyrwyr amser llawn Prifysgolion Cymru yn talu £9000 y flwyddyn i gael mynediad llawn at wasanaethau Prifysgolion. Oherwydd y cyfyngiadau COVID-19 mae’r rhan fwyaf o’r dysgu yn cael ei wneud ar-lein.
Ni all myfyrwyr ddefnyddio llawer o’r gwasanaethau a’r offer a fyddai ar gael cyn COVID-19. Dylai gwasanaeth mwy cyfyngedig gael ei adlewyrchu mewn ffioedd gostyngedig.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Caerffili
· Dwyrain De Cymru